Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
13 Chwefror 2017
SL(5)056 – Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) ac yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn Rhannau 2 i 11 o’r Ddeddf.
Er enghraifft, newidiodd Rhan 3 o’r Ddeddf enw Cyngor Gofal Cymru i Gofal Cymdeithasol Cymru; mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw is-ddeddfwriaeth trwy newid cyfeiriadau at Cyngor Gofal Cymru i Gofal Cymdeithasol Cymru.
Deddf Wreiddiol: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Fe’u gwnaed ar: 21 Ionawr 2017
Fe'u gosodwyd ar:26 Ionawr 2017
Yn dod i rym ar: 3 Ebrill 2017
SL(5)059 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 fel y’u diwygiwyd.
Deddf Wreiddiol: Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
Fe’u gwnaed ar: 23 Ionawr 2017
Fe'u gosodwyd ar:27 Ionawr 2017
Yn dod i rym ar: 17 Chwefror 2017